Craig Blaen y Cwm
Hawdd | Easy 1¼ awr / hours
Mae hon yn daith gerdded hawdd arall ond peidiwch â gwisgo'ch esgidiau gorau gan fod yna ychydig o fwd o gwmpas fel arfer. Gan ddechrau'r daith gerdded ym Mlaen-y-Cwm, y tro hwn byddwch yn cadw at y prif lwybr heibio Rhif 6, trwy'r giât, ac mae llwybr y ffermwyr yn mynd â chi ochr yn ochr ag Afon Machno yr holl ffordd i ddiwedd y dyffryn. Os byddwch yn dechrau yn Glanaber Terrace, bydd yn rhaid i chi, wrth gwrs, groesi'r nant i ymuno â'r llwybr. Y ffermdy sy'n nythu o dan Graig Blaen-y-Cwm yw Twll-y-Cwm ac fel y gallwch weld o'i gymharu â'r braslun a wnaed ym 1981, mae wedi troi yn adfail dros y blynyddoedd.
Mae'r hollt amlwg yn y clogwyn i'r dde o'r tŷ yn dwyn yr enw 'Nant Betti Richards'. Mae'n debyg bod stori yma, gobeithio nad un drist.
Efallai y bydd rhai rhaeadrau uwchben y fferm yn eich denu, ond y bwriad yw i chi droi yn ôl a dod o hyd i'r llwybr i'r chwith sy'n esgyn yn eithaf serth am gyfnod cyn eich dwyn i lawr heibio i Fryn Hyfryd diffaith, i Fythynnod Blaen-y-Cwm.
This is another easy stroll but do not wear your best shoes as there is usually some mud about. Beginning the walk at Blaen-y-Cwm, this time you keep on the main track past No. 6, through the gate, and the farmers' track takes you parallel to the Afon Machno all the way to the end of the valley. If you begin at Glanaber Terrace, you will, of course, have to cross the stream to join the track. The ruined farmhouse nestling beneath Craig Blaen-y-Cwm (Crag at the end of the valley) is Twll-y-Cwm (Hole in the valley) and as you can see by comparing it with the sketch made in 1981, it has been perceptibly falling down over the years. The prominent cleft in the cliff to the right of the house bears the name 'Nant Betti Richards'. There is presumably a story here I hope not a sad one. Some waterfalls above the farm may beckon, but the intention is for you to turn back and find the track left that ascends quite steeply for a time before bringing you down past desolate Bryn Hyfryd, to Blaen-y-Cwm Cottages.