Moel Marchyria

Cymh/Anodd | Mod/Hard 2 ½ awr/hours

Moel Marchyria yw'r gromen gron i'r chwith o'r chwarel gyda choed gwasgaredig islaw'r copa. Dechreuwch y daith gerdded wrth Borth y Chwarel a chychwynwch ar brif lwybr y chwarel, ond ychydig lathenni ar ôl dechrau'r ddringfa trowch yn ôl i'r chwith yn sydyn ar hyd llwybr sy'n mynd â chi o amgylch y domen lechi i ble mae llethr yn dod i lawr o rai gweithfeydd llechi bach y gallwch eu gweld ar ochr y bryn. Mae'r ddringfa'n serth felly cymerwch ddigon o amser i edmygu golygfa Cwm yn agor y tu ôl. Croeswch y tir gwastad i'r dde o'r cloddfa lechi gyntaf ac esgynnwch lethr fyrrach i'r ail. O fan hyn mae llwybr hen löwr yn mynd o gwmpas i'r chwith i ymuno â llwybr y ffermwr sy'n cymryd llinell groeslin amlwg i fyny'r bryn. Gallech droi i'r dde i fyny'r llwybr hwn i gael eich arwain o gwmpas i'r copa, ond y llwybr a argymhellir y tro hwn yw troi i'r chwith a dilyn y llwybr i lawr i gyfeiriad y fferm. Yn y pen draw, bydd y llwybr yn eich dwyn i hen bont dros Afon Foel a'r ffordd ychydig uwchben Carrog. Bellach, nid oes gennych lawer o ddewis ond dilyn y ffordd yn ôl i Cwm.

Moel Marchyria is the rounded dome to the left of the quarry with the scattering of trees below the summit. Begin the walk at the Quarry Gate and set off up the main quarry track, but just a few yards after the start of the climb take a sharp turn back left along a path that takes you round the slate tip to where an incline comes down from some small slate workings you can see on the side of the hill. The ascent is steep and so take plenty of time to admire the view of Cwm opening up behind. Cross level ground to the right of the first slate digging and ascend a shorter incline to the second. From here an old miner's path goes round to the left to join the farmer's track that takes a prominent diagonal line up the hill. You could turn right up this track to be led round to the summit, but the recommended route this time is to turn left and follow the track down in the direction of the farm. The track will eventually bring you to an old bridge over Afon Foel and the road just above Carrog. You now have little choice but to follow the road back to Cwm.

Ysgubor Carrog a Moel Marchyria
Ysgubor Carrog a Moel Marchyria